Familiar Touch 12A
Cyfarwyddwr: Sarah Friedland
Genre: Drama
Cast: Kathleen Chalfant, H. Jon Benjamin, Rafael Hernandez, Florinda Medina, Carolyn Michelle
Mae FAMILIAR TOUCH yn ffilm sy’n trafod heneiddio, ac yn dilyn trosglwyddiad dynes hŷn i gartref byw â chymorth, wrth iddi frwydro yn erbyn perthynas â’i hun a’i gofalwyr, ymysg colli ei hatgofion, hunaniaeth oedran, a dymuniadau.
Mae Ruth Goldman (Kathleen Chalfant), dynes hŷn sy’n dioddef o ddementia, yn gadael ei chartref am ddêt. Ond mae beth mae hi’n feddwl ydi gwesty yn gyfleuster byw â chymorth, ac mae’n rhaid iddi ymdopi gyda nifer o wynebau , patrymau dyddiol ac amgylchedd newydd, wrth i’w hunaniaeth a’i dymuniadau newid.
Wedi’i ysbrydoli gan waith yr awdur/cyfarwyddwr Sarah Friedland fel gweithiwr gofal atgofion, ac artist a oedd yn dysgu oedolion hŷn, mae FAMILIAR TOUCH yn gynhyrchiad sy’n pontio’r cenedlaethau, a grëwyd ar y cyd gyda phreswylwyr a gweithwyr gofal mewn cymuned o bobl sydd wedi ymddeol yn Los Angeles. Mae’r naratif am heneiddio yn un sy’n deillio o safbwynt Ruth - gan danlinellu sut, er i fyd Ruth drawsnewid, mae hi’n parhau i fod yn hi ei hun.
Yn cynnwys ychydig o iaith gref
Prisiau Tocynnau
In Advance £7
On The Day £9
*Ticket Price Includes 75p Administration Fee and 25p Theatre Levy*
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Iau
17 Medi 2026
2pm
Dydd Iau
17 Medi 2026
7.30pm