
Hamilton 12A
Amser rhedeg: 180 mins
Cyfarwyddwr: Thomas Kail
Genre: Sioe Gerdd , Hanesyddol
Cast: Lin-Manuel Miranda, Phillipa Soo, Leslie Odom Jr, Renée Elise Goldsberry, Christopher Jackson, Jonathan Groff
Dangosiad Theatraidd Unwaith Mewn Bywyd sy’n Dathlu Pen-blwydd y Cynhyrchiad Broadway Gwreiddiol yn 10 Oed!
Enillydd 10 Gwobr Tony, yn cynnwys y Sioe Gerdd Orau, 7 gwobr Olivier, yn cynnwys y Sioe Gerdd Newydd Orau, Gwobr Pulitzer yn 2016 ar gyfer Drama a Gwobr Grammy yn 2016 ar gyfer yr Albwm Theatr Gerddorol Gorau.
I ddathlu deng mlynedd o HAMILTON, mae recordiad o’r cast Broadway gwreiddiol yn dod i’r sgrin fawr am dridiau yn unig, sy’n cynnwys aduniad cast a chyfweliadau newydd sbon gyda chast a chreawdwyr y cynhyrchiad gwreiddiol.
Yn berfformiad sinema bythgofiadwy, mae’r fersiwn ffilm o gynhyrchiad Broadway gwreiddiol HAMILTON yn cyfuno elfennau gorau sinema byw a ffilm i greu profiad gwefreiddiol. Drwy lygaid America heddiw mae HAMILTON yn adrodd hanes America yn yr oes a fu. Gyda sgôr sy’n cyfuno hip-hop, jas, R&B a Broadway, mae HAMILTON wedi cymryd stori’r sefydlwr Americanaidd Alexander Hamilton ac wedi creu rhywbeth chwyldroadol yn y theatr – sioe gerdd sydd wedi cael effaith fawr ar ddiwylliant, gwleidyddiaeth ac addysg.
Prisiau Tocynnau
Ymalen Llaw £7
Ar y Diwrnod £9
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
26 Medi 2025
7pm
Dydd Sadwrn
27 Medi 2025
7pm
Dydd Sul
28 Medi 2025
2.30pm