Theatr Colwyn

Demon Slayer: Kimetsu No Yaiba: Infinity Castle (Wedi ei throsleisio i’r Saesneg) 15

Amser rhedeg: 155 mins

Cyfarwyddwr: Haruo Sotozaki Hikaru Kondô

Genre: Drama , Animeiddio, Ffantasi

Cast: Natsuki Hanae, Saori Hayami, Kaede Hondo

Tanjiro Kamado – bachgen sydd wedi ymuno â sefydliad Demon Slayer Corps sy’n ymrwymo i hela demoniaid ar ôl i’w chwaer iau, Nezuko, gael ei throi’n ddemon.

Tanjiro Kamado – bachgen sydd wedi ymuno â sefydliad Demon Slayer Corps sy’n ymrwymo i hela demoniaid ar ôl i’w chwaer iau, Nezuko, gael ei throi’n ddemon. Wrth iddo dyfu’n gryfach a datblygu cyfeillgarwch a chysylltiad gydag aelodau eraill y sefydliad, mae Tanjiro wedi brwydro yn erbyn sawl demon gyda’i gymrodorion - Zenitsu Agatsuma ac Inosuke Hashibira.

Yn ystod y siwrnai hon, mae wedi ymladd ochr yn ochr â rhai o ymladdwyr mwyaf profiadol y Demon Slayer Corps, yr Hashira, gan gynnwys y Flame Hashira, Kyojuro Rengoku ar y Mugen Train, y Sound Hashira, Tengen Uzui yn yr Entertainment District, y Mist Hashira, Muichiro Tokito a’r Love Hashira, Mitsuri Kanroji yn Swordsmith Village.

Wrth i aelodau’r Demon Slayer Corps a’r Hashiras gwblhau rhaglen hyfforddiant cryfder grŵp, yr Hyfforddiant Hashira, er mwyn paratoi ar gyfer y rhyfel yn erbyn y demoniaid, mae Muzan Kibutsuji yn ymddangos yn yr Ubuyashiki Mansion. Gydag arweinydd y Demon Corps mewn perygl, mae Tanjiro a’r Harisha’n rhuthro i’r pencadlys, ond fe’u llyncir gan y ddaear i ofod dirgel dan reolaeth Muzan Kibutsuji.

Mae Tanjiro a’r Demon Slayer Corps yn canfod eu hunain yng nghadarnle’r demoniaid - yr Infinity Castle. Felly, mae maes y gad wedi’i nodi, a dyma gynnau’r frwydr derfynol rhwng y Demon Slayer Corps a’r demoniaid.

Yn cynnwys trais cryf a golygfeydd gwaedlyd


  • Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma



Prisiau Tocynnau

£7

On The Day £9

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
03 Hyd 2025

7pm