

High School Musical - Llandudno Youth Music Theatre
Mae’r cwmni theatr llwyddiannus, Llandudno Youth Music Theatre, yn falch o gyflwyno sioe gerdd boblogaidd Disney, High School Musical, yn fyw ar y llwyfan! Mae Troy, Gabriella a myfyrwyr East High yn gorfod ymdopi â phroblemau disgyn mewn cariad am y tro cyntaf, ffrindiau a theulu, yn ogystal â cheisio cydbwyso eu dosbarthiadau â'u gweithgareddau allgyrsiol.
Pan fydd Troy, capten y tîm pêl-fasged, yn darganfod fod Gabriella, merch glyfar y bu iddo gwrdd â hi yn canu caraoce ar daith sgïo, wedi cofrestru yn East High, maen nhw’n achosi tipyn o helynt pan fyddan nhw’n penderfynu mynd i glyweliadau sioe gerdd yr ysgol. Er bod llawer o fyfyrwyr yn flin ynghylch y bygythiad i’r “status quo”, efallai y bydd cynghrair Troy a Gabriella yn agor drysau i eraill gael cyfle i ddisgleirio.
Ymunwch ag LYMT wrth iddyn nhw ddod â’ch hoff gymeriadau a chaneuon o’r ffilm boblogaidd i’r llwyfan. Paratowch ar gyfer dechrau rhywbeth newydd ac archebwch eich tocynnau rŵan!
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Prisiau Tocynnau
£20
Under 16 £18
Matinee performance £15
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Iau
10 Ebrill 2025
7.30pm
Dydd Gwener
11 Ebrill 2025
7.30pm
Dydd Sadwrn
12 Ebrill 2025
2.30pm
Dydd Sadwrn
12 Ebrill 2025
7.30pm