Theatr Colwyn

Hounds of Love

Genre: Cerddoriaeth, Tribute Show

Camwch i fyd arallfydol Hounds Of Love – The Kate Bush Celebration; teyrnged sy’n driw i gelfyddyd, angerdd a hud un o berfformwyr mwyaf eiconig ac enigmatig y byd cerddoriaeth, Kate Bush.

Mae’r cynhyrchiad syfrdanol hwn yn ail-greu taith arloesol Kate Bush ym 1979, The Tour of Life – campwaith theatraidd a osododd y safon ar gyfer cyfuno cerddoriaeth, dawns ac adrodd stori’n weledol. Gyda sylw gofalus i’r manylion, mae Hounds of Love yn cynnwys perfformiadau sy’n union fel caneuon gwreiddiol mwyaf poblogaidd Kate, o’i halbwm cyntaf, The Kick Inside, i’r arwyddocaol Hounds of Love a thu hwnt. Gyda lleisiau anhygoel sy’n sianelu llais cwbl unigryw Kate ei hun a band byw sy’n ymroi’n llwyr i gyfleu holl naws ei cherddoriaeth, mae’r sioe hefyd yn cyfleu’r ysbryd, y ddrama a’r arloesedd a wnaeth ei pherfformiadau’n rhai mor enwog.

Paratowch i gael eich cludo’n ôl wrth wrando ar glasuron bythgofiadwy fel “Wuthering Heights”, “The Man with the Child in His Eyes”, “Babooshka”, “Running Up That Hill”, ac, wrth gwrs, “Hounds of Love”. Dyma sioe sy’n fwy na chyngerdd yn unig — mae’n brofiad sy’n dathlu’r athrylith Kate Bush a’r gwaddol sy’n dal i fod ar ei hôl. Gadewch i Hounds Of Love – The Kate Bush Celebration fynd â chi ar daith trwy seinweddau, straeon ac ysblander byd Kate Bush. Mae hon yn sioe mae’n rhaid i selogion ac unrhyw un sy’n darganfod ei cherddoriaeth anhygoel am y tro cyntaf ei gweld.

Prisiau Tocynnau

£28

** Mae pris tocyn yn cynnwys ffi gweinyddu o £1.50 ac ardoll theatr o 50c **

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
10 Medi 2027

7.30pm