Funny Girl PG
Genre: Sioe Gerdd
Cast: Sheridan Smith
Mae Funny Girl yn gomedi gerdd chwerw-felys sy’n adrodd hanes yr anfarwol Fanny Brice (rhan a ddaeth yn enwog drwy berfformiad Barbra Streisand), merch o’r Lower East Side a freuddwydiai am fywyd ar y llwyfan, a’i pherthynas dymhestlog â’r dyn busnes a gamblwr, Nick Arnstein. Daeth Fanny’n un o’r perfformwyr mwyaf poblogaidd erioed, yn tywynnu’n fwy tanbaid na’r holl oleuadau ar Broadway.
Dyma glasur o sioe gerdd sydd ag un o’r sgoriau mwyaf adnabyddus erioed gan Jule Styne a Bob Merrill, diwygiad newydd gan Harvey Fierstein o’r llyfr gwreiddiol gan Isobel Lennart, a Michael Mayer, enillydd Gwobr Tony®, yn cyfarwyddo. Mae’r sioe wedi’i gosod yn Efrog Newydd ychydig cyn ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, lle mae Fanny Brice yn un o sêr y Ziegfeld Follies, ac wrth iddi aros i’w gŵr ddod adref o’r carchar, mae’n myfyrio ynglŷn â’u bywyd gyda’i gilydd. Adroddir eu hanes fel ôl-fflachiad.
Mae’r cynhyrchiad wedi cael clod mawr, gan gynnwys Sheridan Smith - “an unforgettable star turn” (y Times) a llu o ganeuon eiconig fel ‘People’, ‘I’m The Greatest Star’ a ‘Don’t Rain On My Parade’. Mae’n glamp o sioe ac yn fawlgan i fyd y theatr.
Wedi gwerthu’r holl docynnau a thorri pob record yn y Menier Chocolate Factory a’r West End yn Llundain, gwnaed ffilm o berfformiad Funny Girl yn Theatr y Palace ym Manceinion ar noson olaf y daith genedlaethol, gan Digital Theatre Live.
Prisiau Tocynnau
£16.50
Concession - £15.50
** Ticket Price Includes 75p Administration Fee and 25p Theatre Levy **
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Iau
30 Ebrill 2026
2pm 7pm