Legally Blonde Jr - Stagecoach Colwyn Bay
Genre: Sioe Gerdd
Mae Cwmni Ieuenctid Further Stages gan Stagecoach Bae Colwyn yn eithriadol o falch o gyflwyno Legally Blonde Jr!
Yn llawn egni, hiwmor a chalon, mae Legally Blonde Jr yn adrodd hanes Elle Woods wrth iddi herio disgwyliadau, aros yn driw i’w hun a phrofi y gall bod â hunan-gred eich cymryd i unrhyw le - y cyfan gyda cherddoriaeth egnïol, ysgafn.
Mae’r cynhyrchiad yma’n arbennig iawn gan fod 2026 yn nodi 15 mlynedd ers i ni sefydlu, a dyma ein perfformiad cyntaf gan Further Stages. Mae ein dosbarth ‘Further’, a lansiwyd ym mis Medi 2025 i fyfyrwyr 14+, yn cynnig dull sydd yn fwy galwedigaethol, diwydiannol tuag at addysg celfyddydau perfformio. Mae’r myfyrwyr gwych yma wedi bod yn rhan o’r cynhyrchiad bob cam o’r ffordd, gan weithio fel tîm go iawn, dysgu beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llen, a datblygu eu sgiliau perfformiad mewn modd mwy aeddfed a hyderus. Mae’r sioe yma’n argoeli i fod yn wych felly dewch i wylio, cefnogwch y perfformwyr ifanc gwych, a dathlwch y bennod newydd gyffrous yma gyda ni!
Mae Further Stages gyda Stagecoach Bae Colwyn yn addo mwy o angerdd, mwy o berfformiad a mwy o botensial!
Mae croeso bob amser i fyfyrwyr newydd. Os hoffech chi gymryd rhan yn ein sioe nesaf ym mis Gorffennaf, ewch i www.stagecoach.co.uk/colwynbay neu e-bostiwch colwynbay@stagecoach.co.uk i gael mwy o fanylion.
Rydym yn cyflwyno ein cynhyrchiad o Legally Blonde Jr drwy drefniant arbennig gyda Music Theatr International ac mae’r holl ddeunyddiau wedi’u darparu ganddyn nhw.
Tîm Cynhyrchu
Kayleigh Nicholas – Cynhyrchydd a Choreograffydd
Charlotte Starmer-Roberts – Cyfarwyddwr
Gyda chefnogaeth Olivia Bryan, Leah Dovey-Evans, Rob Edwards, Danielle Gorle, Dominic Melluish a Karin Melluish
Prisiau Tocynnau
£17.50
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Sadwrn
07 Chwef 2026
4pm 7pm
Dydd Sul
08 Chwef 2026
2pm 5pm