Mark Smith - 'For Valour'. The Story of the Victoria Cross
Mark Smith: Arbenigwr Medalau a Phethau Milwrol a Chyflwynydd ar y Teledu
Mae Mark Smith yn adnabyddus am ei arbenigedd mewn medalau a phethau milwrol ac mae’n un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd yr Antiques Roadshow ar y BBC ers 2014. Caiff ei gydnabod fel un o hoff arbenigwyr y rhaglen ac mae’n dal sylw’r gynulleidfa gyda’i wybodaeth helaeth a’i hanesion difyr.
Ar wahân i’r Antiques Roadshow, mae Mark wedi ymddangos ar lawer o raglenni teledu, gan gynnwys Who Do You Think You Are?, Bargain Hunt, The One Show, a BBC Breakfast, gan ddod yn wyneb cyfarwydd i filiynau o wylwyr.
Mae Mark yn rhannu ei arbenigedd ar y radio hefyd, gan ymddangos fel gwestai’n rheolaidd ar Wasanaeth Darlledu’r Lluoedd Arfog a phodlediadau ar gyfer ABF, yr elusen i filwyr, yn difyrru selogion hanes milwrol ym mhedwar ban byd.
Arbenigwr Blaenllaw am Groes Fictoria
Caiff ei gydnabod yn fyd-eang yn arbenigwr am Groes Fictoria ac mae Mark wedi ysgrifennu pump o lyfrau am y Rhyfel Mawr a chyfrannu at gylchgronau a chyhoeddiadau di-ri. Mae’n aelod o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin a Chymdeithas Ymchwil Urddau a Medalau ac mae’n dal i ddylanwadu ar feysydd hanes milwrol ac ymchwil i fedalau.
Yn ei gyflwyniad byw, For Valour: The Story of the Victoria Cross, mae’n rhoi cyfle i’r gynulleidfa ddysgu am wreiddiau’r fedal hon sy’n fawr ei bri a bydd hefyd yn chwalu rhai camsyniadau ac yn adrodd hanesion anhygoel am y dewrion a dderbyniodd anrhydedd milwrol mwyaf Prydain.
Casglwr, Deliwr a Hanesydd Brwd
Taniwyd brwdfrydedd Mark am hanes milwrol ym 1983 pan ddechreuodd brynu a gwerthu creiriau milwrol yn Islington yn Llundain. Ar hyd y blynyddoedd, mae wedi cronni casgliad preifat helaeth sy’n cynnwys nid yn unig enghreifftiau o Groes Fictoria ond hefyd lifrai hedfan a choflyfrau’r Awyrlu Brenhinol.
Does neb cystal â Mark am ei arbenigedd, ei frwdfrydedd a’i hanesion hynod ac mae hynny wedi cadarnhau ei enw da fel arbenigwr dibynadwy ym myd medalau a phethau milwrol ac ysbrydoli casglwyr a haneswyr ymhobman.
Cyfle i Gwrdd â Mark Smith Cyn y Sioe - Lleoedd yn Brin ***
Mwynhewch eich noson yn y theatr i’r eithaf drwy gymryd rhan awr o sesiwn unigryw wedi’i ysbrydoli gan yr Antiques Roadshow ar y BBC. Ymunwch â Mark am ddigwyddiad cyfeillgar lle daw hanes yn fyw.
Caiff hyd at ugain o westeion gyfle i ddod ynghyd yn y sesiwn preifat a dod ag unrhyw fedalau neu bethau milwrol o’u casgliadau personol. Bydd Mark yn rhannu ei arbenigedd anhygoel ac yn datgelu’r hanesion, y brwydrau a’r adegau hanesyddol sy’n gysylltiedig â phob eitem.
Bydd pob pâr yn cael sesiwn iddynt eu hunain wrth i Mark fwrw golwg ar eu heitemau a rhoi esboniad ohonynt, gan gynnig gwybodaeth ddiddorol a phrisiad proffesiynol – wrth i weddill y grŵp wrando ar yr hanesion hynod o’r rhyfel.
Mae’r profiad prin hwn yn sicr o ddod ag atgofion bythgofiadwy, darganfyddiadau difyr a chysylltiad dyfnach â’r gorffennol. Ychwanegwch y sesiwn i’ch tocyn i gael noson i’w chofio.
Prisiau Tocynnau
£29.50
Meet and Greet - £52
*Ticket Price Includes £1.50 Administration Fee and 50p Theatre Levy*
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
06 Tach 2026
7.30pm