Theatr Colwyn

Mid Wales Opera - Pagliacci

Mae Opera Canolbarth Cymru yn ôl ar daith yn yr hydref eleni gydag opera ias a chyffro enwog Leoncavallo ‘Pagliacci’, neu ‘Clowns '. Mae Canio, arweinydd grŵp teithiol o actorion comedi, yn darganfod bod ei wraig Nedda yn cael perthynas gydag un o'r perfformwyr eraill. Ond cyn darganfod pa berfformiwr, rhaid iddo fynd ar y llwyfan a chwarae rhan… gŵr anobeithiol y mae ei wraig yn twyllo arno.

Daw'r perfformiad i ben gyda'r realiti'n cael ei gymylu'n frawychus nes bod y llinell rhwng y perfformiad llwyfan a bywyd go iawn yn aneglur ac yn dychryn y gynulleidfa sy'n gwylio. Mae Pagliacci, sy’n llawn cerddoriaeth syfrdanol, yn dal gafael yn ei statws cwlt fel y 'ddrama-o-fewn-drama‘ operatig eithaf.

Mae cynhyrchiad newydd Opera Canolbarth Cymru yn cynnwys cast o 5 canwr a 5 cerddor, gyda chyfieithiad Saesneg newydd gan Richard Studer, a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Fel gyda LlwyfannauLlai, bydd yr opera yn digwydd yn hanner cyntaf y noson yn unig. Bydd yr ail hanner yn cynnwys cabaret newydd o eitemau cerddorol poblogaidd a difyr sy'n cynnwys yr holl gantorion a'r cerddorion i'r gynulleidfa gael noson i’w chofio.

  • Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma.


Prisiau Tocynnau

£17.50

Pobl Ifanc dan 21 mewn Addysg Llawn Amser £6.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
07 Tach 2024

7.30pm