National Theatre Live: Prima Facie - Dangosiad Encore 15 (as live)
Cyfarwyddwr: Justin Martin
Genre: Drama
Cast: Jodie Comer
YN ÔL AR ÔL GALW MAWR
Mae’r National Theatre yn Fyw yn cyflwyno Cynhyrchiad yr Empire Street o
Prima Facie
sydd wedi’i ysgrifennu gan Suzie Miller
a’i gyfarwyddo gan Justin Martin
Mae perfformiad Jodie Comer (Killing Eve) a enillodd Wobr Olivier a Tony yn nrama un ddynes afaelgar Suzie Miller yn dychwelyd i’r sinema.
Mae Tessa yn fargyfreithwraig ifanc, wych. Mae hi wedi gweithio ei ffordd i fyny o’r dosbarth gweithiol i fod yn un o’r goreuon yn ei maes; yn amddiffyn; yn croesholi ac yn ennill. Mae digwyddiad annisgwyl yn ei gorfodi i wynebu’r llinell lle mae pŵer patriarchaidd y gyfraith, baich profi a moesau yn ymrannu.
Mae Prima Facie yn mynd â ni i ganol lle mae emosiwn a phrofiad yn gwrthdaro â rheolau’r gêm.
Justin Martin sy’n cyfarwyddo’r perfformiad unigol hwn, a gafodd ei ffilmio’n fyw yn 2022 yn ystod cyfnod hynod lwyddiannus lle gwerthwyd pob tocyn yn Theatr Harold Pinter yn y West End yn Llundain.
- Yn cynnwys iaith gref, trais rhywiol a bygythiad rhywiol.
- Yn ymwneud â phynciau sensitif, gan gynnwys cyfeiriad at ryw, trais a threisio
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma.
Prisiau Tocynnau
£16.50
Con £15.50
Cardyn Premier £13.50
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
08 Tach 2024
7pm