Cymraeg

National Theatre Live: Hay Fever (15 TBC)

Cyfarwyddwr: Emily Burns

Genre: Drama , Comedi

Cast: Christine Baranski, Richard E Grant

Mae Christine Baranski, enillydd gwobrau Emmy a Tony, yn ymddangos am y tro cyntaf yn y West End ochr yn ochr ag un o gewri’r llwyfan a’r sgrin, ac enwebai am Wobr Academi, Richard E. Grant, yng nghomedi fendigedig Noël Coward.

Mae Judith Bliss wedi ymddeol o’i bywyd ar y llwyfan ac mae hi’n hiraethu am y gymeradwyaeth. Wrth iddyn nhw dreulio eu hamser yn segura yn eu cartref gwledig, mae gweddill y teulu’n rhy brysur yn meddwl amdanyn nhw’u hunain i fod yn gynulleidfa dda.Felly, mae Judith yn gwahodd edmygydd ifanc i fod yn westai iddi dros y penwythnos.Ond heb yn wybod iddi hi, mae gan bob un o aelodau’r teulu Bliss eu gwestai eu hunain yn cyrraedd ar yr un pryd yn union.

Wedi’i ffilmio’n fyw o’r West End, Emily Burns sy’n cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd miniog yma.

★★★★
'A riotous new production'
Metro

★★★★
'A delicious West End confection'
WhatsOnStage

★★★★
'A damn good evening out'
Radio Times

Prisiau Tocynnau

£16.50

Consesiwn £15.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
14 Ion 2027

7pm

Dydd Mawrth
19 Ion 2027

2pm