Theatr Colwyn

Edward Scissorhands: Fersiwn dawns Matthew Bourne o glasur Tim Burton 12A

Genre: Dawns

Mae cynhyrchiad dawns hudol Matthew Bourne o Edward Scissorhands wedi cerfio ei le yng nghalonnau cynulleidfaoedd ar draws y byd ers y perfformiad cyntaf yn 2005.

Yn seiliedig ar ffilm Tim Burton, ac yn cynnwys cerddoriaeth brydferth Danny Elfman a Terry Davies, mae Bourne a’i gwmni New Adventures yn dychwelyd i’r stori ffraeth, chwerwfelys hon o fachgen anghyflawn a adawyd ar ben ei hun mewn byd newydd, estron.

Wedi’i ffilmio’n fyw ym mis Mawrth 2024 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, mae’r cynhyrchiad ‘visually arresting and ceaselessly inventive’ (★★★★★ Metro) yn ‘perfect treat for all the family’ (★★★★★ The Times).

Mewn castell ar ben bryn mae Edward yn byw; bachgen a gafodd ei greu gan ddyfeisiwr ecsentrig. Pan mae ei greawdwr yn marw, caiff ei adael ar ei ben ei hun ac yn anorffenedig, gyda sisyrnau fel dwylo, nes i fenyw garedig o’r dref ei wahodd i fyw gyda’i theulu maestrefol.

A all Edward ddod o hyd i’w le yn y gymuned groesawgar hon, sy’n ei chael hi’n anodd gweld heibio ei ymddangosiad hynod, i’r diniweidrwydd ac addfwynder tu mewn iddo?

  • Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma.


Prisiau Tocynnau

£16.50

Con £15.50

Cardyn Premier £13.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
25 Medi 2024

7pm