Theatr Colwyn

New Entry

Mae’n bleser mawr gan RADMTC gyflwyno Rock of Ages

Gadewch i gynhyrchiad gwefreiddiol RADMTC o Rock of Ages eich cludo’n ôl i’r 1980au - gyda chlasuron roc poblogaidd, unawdau gitâr syfrdanol a gwalltiau gwell byth!

Mae’r sioe gerdd Rock of Ages wedi cael pum enwebiad am wobr Tony, ac mae’n adrodd hanes merch o’r wlad yn cwrdd â bachgen o’r ddinas, a charwriaeth roc a rôl ar Sunset Strip. Ond, pan ddaw sôn am ddymchwel y bar sy’n gartref i gerddoriaeth roc, mae dyfodol y cadarnle a’r gerddoriaeth yn nwylo’r egin rocwyr hyn a’u ffrindiau.

Mae cerddoriaeth wefreiddiol Rock of Ages yn cynnwys pob un o’ch hoff faledi ac anthemau roc o’r 80au, gan gynnwys “Every Rose Has It’s Thorn”, “I Wanna Know What Love Is”, “Here I Go Again”, “The Final Countdown”, a llawer mwy!

Prisiau Tocynnau

£20

Plant (5-15yrs) £15

Teulu (oedolion 2 & plant 2) £55

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
21 Tach 2025

7.30pm

Dydd Sadwrn
22 Tach 2025

2.30pm

Dydd Sadwrn
22 Tach 2025

7.30pm