Nick Kershaw : Musings and Lyrics
Daeth Nik Kershaw i fyd pop y DU yn 1984. Bu ei gyfres o senglau poblogaidd byd-eang, gan gynnwys 'Wouldn't it Be Good', 'The Riddle' ac 'I Won't Let the Sun Go Down on Me' ar Siart Senglau’r DU am 62 wythnos, gan ei wneud yn un o artistiaid unigol y DU a werthodd fwyaf y flwyddyn honno.
Perfformiodd yn Live Aid ym 1985. Ar ôl camu allan o lygad y cyhoedd i ganolbwyntio ar ysgrifennu a chynhyrchu, ysgrifennodd Nik 'The One and Only' Chesney Hawkes, a chydweithiodd ag Elton John, Lulu, Petula Clark, The Hollies, Ronan Keating, Jason Donovan, Let Loose, Sia, Imogen Heap, Gary Barlow a Bonnie Tyler.
Ym 1998, dychwelodd Nik i berfformio ac mae wedi bod yn creu albymau clodfawr a phoblogaidd ers hynny. Mae bellach yn barod i edrych yn ôl gyda noson agos atoch i gyd-fynd â rhyddhau ei lyfr newydd. Cewch ddisgwyl caneuon, straeon, a hwyl gan un o berfformwyr mwyaf poblogaidd y genedl.
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma.
Prisiau Tocynnau
£36
Tocyn VIP: Sedd Orau a Bag Nwyddau - £52
Tocyn Cwrdd a Chyfarch: Cwrdd a Chyfarch Cyn y Sioe gyda Nik Kershaw, Sedd Rhes Flaen a Bag Nwyddau - £87
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Iau
06 Tach 2025
7.30pm