Theatr Colwyn

NT Live: Mrs Warren's Profession Cert TBC

Cyfarwyddwr: Dominic Cooke

Genre: Drama

Cast: Imelda Staunton, Bessie Carter

Mae Imelda Staunton (The Crown), enillydd pum Gwobr Olivier, yn ymuno â’i merch mewn bywyd go iawn, Bessie Carter (Bridgerton) am y tro cyntaf, yn chwarae mam a merch yng nghlasur moesegol, tanllyd Bernard Shaw.

Mae Vivie Warren yn ddynes o flaen ei hamser. Mae ei mam, ar y llaw arall, yn ganlyniad i’r hen drefn batriarchaidd. Mae manteisio ar honno wedi gwneud ffortiwn i Mrs Warren, ond am ba gost?

Wedi’i ffilmio’n fyw yn y West End, mae Staunton a’r cyfarwyddwr, Dominic Cooke (Follies, GOOD), yn ailymuno â’i gilydd ar gyfer cynhyrchiad newydd sy’n edrych ar y gwrthdrawiad rhwng moesoldeb ac annibyniaeth, traddodiad a chynnydd.

Prisiau Tocynnau

£16.50

Concession - £15.50

Premier Card - £13.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
23 Hyd 2025

7pm