Oasis: Don't Look Back In Anger Cert TBC
Cyfarwyddwr: Steven Knight Will Lovelace Dylan Southern
Genre: Dogfen , Cerddoriaeth
Cast: Oasis, Noel Gallagher, Liam Gallagher
Oasis: Don't Look Back In Anger yw’r ffilm sy’n dilyn hynt taith aduniad lwyddiannus Liam a Noel Gallagher, Oasis Live ’25, a thaith y bu’r edrych-ymlaen mwyaf amdani ers tro gan fand roc a rôl.
Mae’r ffilm yn siŵr o godi calon wrth adrodd hanes digwyddiad cerddorol mwyaf 2025, gan gyfleu profiad ac emosiynau’r band a’u dilynwyr ar hyd a lled y byd. Mae’r persbectif unigryw’n cynnwys golwg ar ymarferion, cefn llwyfan a’r band yn perfformio, yn ogystal â’r cyfweliadau cyntaf gyda Noel a Liam ar y cyd ers dros 20 mlynedd.
Ynghyd â thaith ryngwladol hynod boblogaidd y band, mae’r ffilm hefyd yn edrych ar effaith emosiynol ddofn y cyfnod enfawr yma i ddiwylliant byd-eang a’r hyn mae eu cerddoriaeth yn ei olygu i gynulleidfaoedd a chenedlaethau ym mhob cwr o’r byd.
Prisiau Tocynnau
£7
Concession £9
*Ticket Price Includes 75p Administration Fee and 26p Theatre Levy*
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Mawrth
15 Medi 2026
7pm
Dydd Mercher
16 Medi 2026
7pm