Theatr Colwyn

OCEAN WITH DAVID ATTENBOROUGH

Genre: Dogfen

Mae OCEAN WITH DAVID ATTENBOROUGH yn mynd â’r gwylwyr ar siwrnai syfrdanol yn dangos nad oes unlle’n fwy hanfodol ar gyfer ein goroesiad, mor llawn o fywyd a rhyfeddod, â’r cefnfor.

Mae’r darlledwr a’r gwneuthurwr ffilmiau enwog yn datgelu sut mae ei fywyd wedi cyd-fynd ag oes fawr darganfyddiadau’r cefnfor. Drwy olygfeydd trawiadol yn dangos riffiau cwrel, coedwigoedd gwymon a’r cefnfor agored, mae David Attenborough yn egluro pam mae cefnfor iach yn cadw’r blaned gyfan yn sefydlog a ffyniannus.

Mae sinematograffi cofiadwy, byw, yn dangos rhyfeddod bywyd o dan y moroedd ac yn amlygu realiti a’r heriau sy’n wynebu ein cefnfor fel na fu erioed o’r blaen – o dechnegau pysgota dinistriol i gannu riffiau cwrel ar raddfa eang. Er hyn i gyd, mae hon yn stori obeithiol, ac mae David Attenborough yn cyfeirio at storïau ysbrydoledig o bob cwr o’r byd wrth gyflwyno ei neges fwyaf: gall y cefnfor adfer i ogoniant y tu hwnt i unrhyw beth y mae unrhyw un byw wedi ei weld erioed.

Prisiau Tocynnau

Ymlaen llaw £7

Ar y diwrnod £9

** Mae pris y tocyn yn cynnwys tâl gweinyddol o £1.50 ac ardoll theatr o 50p **

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
03 Meh 2026

2pm 7pm