‘Pantolig’ Bod Alaw
Mae Pantolig yn uno stori Sindarela â stori’r geni.
Mae Sindarela druan yn cael ei thrin yn wael gan ei llys-fam a’r ddwy chwaer hyll, a phan ddaw gwahoddiad arbennig i barti i ddathlu cyrhaeddiad rhyw frenin newydd, mae Sindarela yn cael ei gorfodi i aros gartref gyda’r llygod.
Ond, gyda ychydig o help gan ei ffrindiau newydd, mae Sindarela yn cyrraedd y parti, ond nid yw’r parti yn union fel yr oedd pawb yn ei ddisgwyl!
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Prisiau Tocynnau
Adult £7
Children (Primary School Age) £3
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Mercher
04 Rhag 2024
1.30pm 6pm