Powerplay Musical Theatre Company: Les Misérables Musical...School Edition
Genre: Sioe Gerdd
Mae Myfyrwyr Hŷn Cwmni Theatr Gerdd Powerplay yn ôl i berfformio’r sioe eiconig Les Misérables… Fersiwn Ysgolion.
Mae’r stori epig hon o chwalu breuddwydion yng nghyd-destun problemau Ffrainc yn y 19eg ganrif yn un o ffefrynnau cynulleidfaoedd theatrau ledled y byd.
Yn seiliedig ar nofel Victor Hugo, mae’r stori’n cylchdroi o amgylch Jean Valjean, gwerinwr o Ffrainc, a’i ymgyrch am waredigaeth ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar am ddwyn torth o fara ar gyfer plentyn ei chwaer, a oedd yn llwgu.
Pan fo’n cael ei ryddhau, mae bywyd o ddrwgdybiaeth a chamdriniaeth yn aros amdano. Mae’n torri amodau ei barôl yn y gobaith o ganfod bywyd gwell, ac mae’n cael ei ymlid yn ddidrugaredd gan Arolygydd yr Heddlu, Javert, sy’n gwrthod credu y gellir ei waredu.
Yn ystod gwrthryfel y myfyrwyr ym Mharis ym 1832, mae’n rhaid i Javert ailystyried ei farn pan fo Valjean yn arbed ei fywyd a bywyd myfyriwr sydd wedi swyno merch fabwysiedig Valjean.
Mae’r sioe’n cynnwys cerddoriaeth a geiriau cynhyrfus a gwych Alain Boublil a Claude-Michel Schönberg, a gall y gynulleidfa ddisgwyl holl ddrama’r gwrthryfel Ffrengig ynghyd â chaneuon poblogaidd fel ‘Stars’, ‘I Dreamed a Dream’, ‘One Day More’, ‘On My Own’ a llawer mwy yn y sioe hanesyddol hon.
Sicrhewch eich bod yn ymuno â’r gwrthryfel drwy archebu eich tocynnau rŵan!
Yn addas ar gyfer plant 8 oed a hŷn
*Yn cynnwys trais cymedrol, bygythiadau, manylion am anafiadau, iaith gref
Prisiau Tocynnau
Oedolyn £24
Dan 16 £18
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Iau
11 Gorff 2024
7pm
Dydd Gwener
12 Gorff 2024
7pm
Dydd Sadwrn
13 Gorff 2024
2pm
Dydd Sadwrn
13 Gorff 2024
7pm