Theatr Colwyn

Chitty Chitty Bang Bang Jr - Stagecoach Colwyn Bay

Mae’n bleser gan Stagecoach Bae Colwyn gyflwyno Chitty Chitty Bang Bang Jr, antur gerddorol wych am gar rhyfeddol sy'n hedfan drwy'r awyr ac yn hwylio'r moroedd. Yn seiliedig ar y cynhyrchiad West End a dorrodd recordiau a'r ffilm annwyl, ac yn cynnwys sgôr bythgofiadwy gan y Brodyr Sherman (Mary Poppins), mae Chitty Chitty Bang Bang JR yn sioe fawr y bydd cynulleidfaoedd wrth eu boddau â hi.

Mae'r dyfeisiwr ecsentrig, Caractacus Potts, yn mynd ati i adfer hen gar rasio gyda chymorth ei blant Jeremy a Jemima. Yn fuan maent yn darganfod bod y car yn hudolus, a bod ganddo'r gallu i arnofio a hedfan. Pan fydd y Barwn Bomburst drwg yn dymuno'r car hud iddo'i hun, mae'r teulu'n ymuno â Truly Scrumptious a Grandpa Potts i drechu'r Barwn a'r Farwnes ffiaidd a'u dihiryn o was, y Child Catcher.

Yn llawn golygfeydd llwyfan anhygoel a chaneuon bythgofiadwy, mae'r antur gerddorol fyrrach hon wedi'i chynllunio'n benodol i'w pherfformio gan ac ar gyfer perfformwyr ifanc. Bydd y sioe yn rhedeg am oddeutu 1 awr a 30 munud gydag egwyl fer o ddeg munud.

Er mwyn dangos yr holl dalent anhygoel sydd gennym yn Stagecoach Bae Colwyn, mae gennym ddau gast gwahanol o berfformwyr penigamp. Os ydych eisiau tocyn i weld un o’n myfyrwyr yn benodol, holwch ym mha sioe maen nhw’n ymddangos.

Rydym yn cyflwyno ein cynhyrchiad o CHITTY CHITTY BANG BANG JR drwy drefniant arbennig gyda Music Theatr International ac mae’r holl ddeunyddiau wedi’u darparu ganddyn nhw.

Tîm Cynhyrchu

Kayleigh Nicholas, Leah Dovey-Evans, Olivia Bryan, Rob Edwards a Karin Melluish.

Stagecoach Bae Colwyn

Mae Stagecoach Bae Colwyn yn ysgol y celfyddydau perfformio ran amser sy’n cael ei chynnal yn ysgol Rydal Penrhos ar foreau Sadwrn. Mae plant 4 i 18 oed yn cael dosbarthiadau canu, dawnsio a drama wythnosol sy'n anelu at ddatblygu sgiliau bywyd allweddol megis hyder, cyfathrebu a chreadigrwydd, gan feithrin doniau perfformio a photensial ar yr un pryd. Yn Stagecoach rydym yn grediniol pa bynnag lwybr y bydd ein myfyrwyr yn ei ddilyn yn y dyfodol, y bydd eu cynnydd yn Stagecoach yn eu eu cynnal nhw bob amser Fydd eu dysgu a’u sgiliau ddim yn darfod wrth i’r llenni ddisgyn, mae Stageocach yn rhoi #cryfdercreadigolgydoloes

Os hoffech chi fod yn rhan o’n cynhyrchiad nesaf neu fwynhau ein dosbarthiadau wythnosol, cysylltwch â ni! Rhown ragbrofion i bob myfyriwr newydd. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01492250220, e-bostiwch colwynbay@stagecoach.co.uk neu ymwelwch â www.stagecoach.co.uk/colwynbay

Prisiau Tocynnau

£14.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sul
06 Gorff 2025

11.30am

Dydd Sul
06 Gorff 2025

3pm