Theatr Colwyn

LMP

Mae Llandudno Musical Productions, y grŵp a fu’n gyfrifol am ‘9 to 5’ a ‘Big’, yn cyflwyno’u cynhyrchiad ar gyfer 2025 – The Wedding Singer!

Mae The Wedding Singer yn mynd â ni’n ôl i amser pan oedd gwallt yn fawr, trachwant yn beth da, coleri i fyny, a phan oedd pawb yn llawn edmygedd o ganwyr priodasau. Yn seiliedig ar ffilm boblogaidd Adam Sandler, mae sgôr newydd arbennig The Wedding Singer yn dal hanfod yr 80au yn union fel y gwnaeth Hairspray i’r 60au. Dewch i weld y sioe gerdd fwyaf rhamantus mewn ugain mlynedd.

Mae hi’n 1985 yn New Jersey pan fo egin seren roc (canwr priodasau proffesiynol) yn cael ei adael wrth yr allor ac yn newid ei gân. Robbie Hart yw hoff ganwr priodasau New Jersey. Fo ydy canolbwynt pob hwyl, nes i’w ddyweddi ei adael wrth yr allor. Wedi ei saethu drwy ei galon, mae Robbie’n gwneud pob priodas yr un mor drychinebus â’i briodas ei hun. Dyma Julia, gweinyddes ddeniadol sy’n ennill ei serch. Mae Julia ar fin priodi â siarc o Wall Street, ac os na fydd Robbie’n gallu rhoi perfformiad y ddegawd, bydd merch ei freuddwydion wedi mynd am byth!

Peidiwch â cholli’r sioe wych hon! Archebwch eich tocynnau’n fuan i osgoi cael eich siomi!

Prisiau Tocynnau

Adult £20

Under 16 £15

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
09 Hyd 2025

7.30pm

Dydd Gwener
10 Hyd 2025

7.30pm

Dydd Sadwrn
11 Hyd 2025

2pm

Dydd Sadwrn
11 Hyd 2025

7.30pm