Theatr Colwyn

Set Fire To The Stars 15

Cyfarwyddwr: Andy Goddard

Genre: Drama

Cast: Elijah Wood, Celyn Jones, Kelly Reilly, Steven Mackintosh, Shirley Henderson, Kevin Eldon, Steve Speirs

Wedi’i ryddhau’n 2014, yn dathlu can mlynedd ers geni Dylan Thomas, mae’r ddrama lled-fywgraffiadol ddiddorol - wedi’i ffilmio mewn du a gwyn - yn canolbwyntio ar wythnos ym mywyd y bardd mawreddog wrth iddo baratoi ar gyfer cyfres o berfformiadau yn yr Unol Daleithiau.

Yn cynnwys perfformiadau anhygoel gan y cyd-awdur Celyn Jones fel Thomas ac Elijah Wood fel John Malcolm Brinnin, a sgôr wreiddiol syfrdanol gan Gruff Rhys (Super Furry Animals), mae’n giplun chwareus, doniol a gwefreiddiol o un o feirdd mwyaf poblogaidd y byd.

Mae Set Fire To The Stars yn cynnwys noddwr Theatr Colwyn, Celyn Jones fel Dylan Thomas, a bu iddo gyd-ysgrifennu’r ffilm gyda’r cyfarwyddwr Andy Goddard.

Yn cynnwys iaith gref a chyfeiriadau at ryw

Prisiau Tocynnau

In Advance £7

On The Day £9

*Ticket Price Includes 75p Administration Fee and 25p Theatre Levy*

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mawrth
04 Awst 2026

7.30pm

Dydd Mercher
05 Awst 2026

2pm 7.30pm