Theatr Colwyn

Seventh Avenue Arts presents: Simon & Garfunkel Through the Years

Wedi ei disgrifio gan y beirniaid fel un o’r sioeau teyrnged gorau yn y byd, mae Simon & Garfunkel Through the Years yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd ar draws y byd.

Yn cynnwys harmonïau lleisiol hyfryd gan gerddorion o safon byd, mae’r cyngerdd mawreddog hwn yn eich cludo ar daith drwy ganeuon epig a hanes Simon and Garfunkel. “Un o’r sioeau teyrnged gorau yn unrhyw le yn y byd”

Mae’r sioe yn ddathliad o sut y daeth dau fachgen o Queens, Efrog Newydd, i enwogrwydd gan fynd ymlaen i ddod y ddeuawd gwerin-roc fwyaf llwyddiannus o’r 1960au gan werthu 38 miliwn albwm yn yr UDA yn unig a gan dderbyn 10 gwobr Grammy. Yn 1981 perfformiodd y ddau i dros hanner miliwn o bobl yn eu dinas enedigol sef Efrog Newydd ac yn 1990 cawsant eu cyflwyno i Oriel Anfarwolion y byd Roc a Rôl.

Mae Dan Haynes a Pete Richards, sy’n cael eu hadnabod gyda’i gilydd fel Bookends, wedi bod yn perfformio yn Simon & Garfunkel Through the Years ers ei greu yn 2011. Yn debyg iawn i’w harwyr fe ddaethant yn ffrindiau yn yr ysgol gan ganu gyda’i gilydd o oed ifanc.

Yn ogystal ag aros am gyfnodau yn y West End yn Llundain mae’r sioe wedi teithio’n helaeth o amgylch y DU, Ewrop, yr Unol Daleithiau ac Awstralia, gan ddenu theatrau llawn noson ar ôl noson. Gyda chyfnodau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ers 2014, lle gwerthwyd y tocynnau i gyd, maent wedi eu disgrifio fel “un o’r grwpiau lleisiol gorau sy’n teithio heddiw” y mae eu sŵn yn “gyfareddol”.

Gan gynnwys yr holl glasuron fel ‘The Sound of Silence’, ‘Mrs Robinson’, ‘The Boxer’ a’r clasur ‘Bridge Over Troubled’, peidiwch â cholli’r sioe anhygoel hon.

“Campwaith gwirioneddol” BBC Radio

“Un o’r sioeau teyrnged gorau yn unrhyw le yn y byd”” - Stuart Cameron, Darlledwr gyda’r BBC ac ITV

www.simonandgarfunkelthroughth...

Prisiau Tocynnau

£28

Concession - £27

* Ticket Price Includes £1.50 Administration Fee and £50p Theatre Levy*

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
14 Hyd 2026

7.30pm