Sleepless in Seattle PG
Amser rhedeg: 101 mins
Cyfarwyddwr: Nora Ephron
Genre: Drama , Comedi, Romance
Cast: Tom Hanks, Meg Ryan, Bill Pullman, Ross Malinger, Rosie O'Donnell, Rob Reiner
Ymunwch â ni yn Theatr Colwyn i wylio’r comedi rhamantus clasurol hwn ar Ddydd Sant Ffolant.
Mae Sam Baldwin yn colli ei wraig, ac yn symud i Seattle gyda'i fab Jonah mewn ymgais i ddechrau bywyd newydd. 18 mis yn ddiweddarach, mae Sam yn dal i alaru ac mae Jonah yn awyddus iawn i gael mam newydd. Yn y pen draw, mae Jonah yn perswadio Sam i siarad o’r galon yn fyw ar y radio – mae'n dod yn boblogaidd yn syth ymhlith miloedd o wrandawyr benywaidd, ac yn cael tomen o lythyrau o gysur. Mae’r newyddiadurwraig Annie Reed, sydd wedi’i hysbrydoli gan stori Sam a rhamant glasurol Hollywood, yn gwrando yn Baltimore. Mae hi'n ysgrifennu at Sam ac yn argyhoeddedig eu bod nhw i fod i gyfarfod.
Fodd bynnag, mae dwy broblem: Mae Annie wedi dyweddïo â rhywun arall, ac nid yw Sam yn gwybod - eto - eu bod nhw’n berffaith i’w gilydd.
Yn cynnwys rhywfaint o regi ysgafn a chyfeiriadau at ryw
Prisiau Tocynnau
In Advance £7
On The Day £9
*Ticket Price Includes 75p Administration Fee & 25p Theatre Levy*
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Sul
14 Chwef 2027
6pm