Stuart Michael Psychic Medium
Yn syth o’r West End yn Llundain - noson gyffrous a chyfareddol o gyfryngu seicig!
Mae gan Stuart restr sylweddol o gleientiaid enwog ledled y byd, ac mae’n dod â'i hiwmor ffraeth, ei sensitifrwydd a'i dosturi i'r llwyfan.
Gan rannu ei ddawn anhygoel sydd wedi bod ganddo ers iddo fod yn blentyn o allu dychmygu pethau yn ei feddwl – mae Stuart yn defnyddio ei alluoedd rhyfeddol i gysylltu â’r byd ysbrydol.
Caiff ei ddenu'n reddfol at rai aelodau o'r gynulleidfa, a bydd yn trosglwyddo negeseuon uniongyrchol gan y byd ysbrydol. Peidiwch â phoeni am ble’r ydych chi'n eistedd, bydd Stuart yn dod o hyd i chi os oes ganddo neges i chi!
Mae’n dod â chysur ac empathi i'r rhai sy'n dod ato, ac mae'n arbenigo mewn trosglwyddo negeseuon gan anwyliaid sydd wedi marw.
Yn ogystal â hyn, caiff breuddwydion sy’n digwydd dro ar ôl tro eu dehongli - ni waeth pa mor hurt, difrifol neu frawychus y maen nhw’n ymddangos.
Ei neges i'r gynulleidfa yw bod yn agored ac yn barchus am y noson o’u blaenau, a pheidio â bod yn nerfus, gan y bydd yn brofiad sy’n codi calon.
Peidiwch â cholli’r noson unigryw a bythgofiadwy hon. Mae’n rhaid i chi ei weld er mwyn ei gredu.
Cynhyrchiad ymchwiliol at ddibenion adloniant yw hwn.
Prisiau Tocynnau
£31
*Ticket Price Includes £1.50 Administration Fee and 50p Theatre Levy*
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
11 Meh 2027
7.30pm