Dadorchuddio Cerflun Terry Jones
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Michael Palin a Terry Gilliam yn dadorchuddio cerflun Terry Jones yma ym Mae Colwyn fis nesaf.
Ymunwch â ni, Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy a theulu Terry ddydd Sadwrn, 25 Ebrill am ddiwrnod o hwyl ar y traeth yn dathlu popeth yn ymwneud â Terry.
Dewch i gwrdd â’r Llychlynwyr ysbeilgar a Marchogion gyda chnau coco ac enillwch nwyddau Monty Python swyddogol yn y Gemau Olympaidd Gwirion, gyda llawer iawn mwy i’w wneud a’i weld! Bydd y dadorchuddio, yn arddull arbennig Monty Python, yn digwydd am 3pm.
Diolch yn fawr iawn i Cyngor Celfyddydau Cymru a Bay of Colwyn Town Council am ariannu’r digwyddiad. Gyda chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
BLE: Traeth Bae Colwyn, Rhwng y Pier A Phorth Eirias
WHAT THREE WORDS ///joke.pardon.grapes
FOTO: Paul Cooper
Prisiau Tocynnau
AM DDIM
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Sadwrn
25 Ebrill 2026
12 - 4pm