Theatr Colwyn

The BIG Country Music Show

Genre: Cerddoriaeth

Byddwch yn barod am fôr o hetiau cowboi pan fydd The Big Country Music Show yn cyrraedd y dref! Gan y band sydd wedi ennill gwobrau a ddaeth â'r cynhyrchiad teithiol poblogaidd 'One Night in Dublin' i chi. Mae'r sioe hon wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd ac wedi bod yn cael adolygiadau rhagorol ledled y DU.

Mae gan y band gerddorion anhygoel sy’n cynnwys prif gantorion sy’n ferched a dynion, harmonïau hyfryd a ffidl yn cael ei chwarae’n fyw. Mae’n strafagansa dwy awr o hyd o ganu gwlad traddodiadol y gallwch chi forio canu, clapio dwylo a stompio’ch traed i’r clasuron gan gerddorion fel Kenny Rogers, Dolly Parton, Shania Twain, Garth Brooks, Johnny Cash, Willie Nelson a The Eagles.

Mae’n cynnwys llond het cowboi o ganeuon poblogaidd canu gwlad fel ‘The Gambler’, ‘Take it Easy’, ‘Man! I Feel Like a Woman’, ‘Ring of Fire’, ‘The Devil Went Down to Georgia’ a llawer mwy. Os ydych chi’n hoffi canu gwlad traddodiadol, ewch i nôl eich bŵts, gafaelwch yn eich partner a dewch draw!

Prisiau Tocynnau

£23.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sadwrn
23 Tach 2024

7.30pm