The Bubble Wizard's Giant Bubble Show
Genre: Plant / Teulu
Bubble Inc yn cyflwyno… Y SIOE SWIGOD ENFAWR! Arddangosfa swigod cyflym ac effeithiol, yn serennu’r Bubble Wizard ei hun! Gallwch ddisgwyl swigod enfawr, stormydd swigod troellog a siapiau disglair sy’n ymestyn eich dychymyg ar draws y llwyfan mewn sioe llawn lliw a golau.
Ydych chi erioed wedi gweld swigen sgwâr? Beth am swigen sy’n bownsio? Dewch i ymuno â ni a’n byd hudolus o swigod! Mae’r sioe yn llawn chwerthin, rhyngweithio â’r gynulleidfa ac eiliadau hudolus sy’n arwain at ddiweddglo bythgofiadwy lle caiff gwirfoddolwyr lwcus eu rhoi mewn swigen anferthol. Egni mawr, sioe fawr a swigod mwy fyth!
Addas ar gyfer pob oed - Dewch i ddarganfod eich ‘swigen fewnol’ - bydd y sioe yr un mor ddifyr i oedolion ag i blant!
Prisiau Tocynnau
£15
Concession £13
*Ticket Price Includes £1.50 Administration Fee and 50p Theatre Levy*
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Llun
26 Hyd 2026
2pm