Theatr Colwyn

The Haunted Treasure Chest

Mae The Haunted Treasure Chest a gyflwynir i chi gan Magic Light Productions, arbenigwyr mewn hud, lledrith a theatr plant, yn antur arswydus i’r teulu!

Wrth i fôr ladron daro ar gist drysor llawn dirgelwch maent yn ddamweiniol yn rhyddhau ysbryd direidus sy’n eu hanfon ar helfa drysor wyllt. Ar hyd y daith fe fyddant yn cyfarfod ffrindiau ar ffurf pypedau, byddant yn dod ar draws rhithiau cyffrous, fe glywir siantis môr bachog a cheir comedi hynod o ddoniol.

Yn llawn cymeriadau bythgofiadwy a throeon annisgwyl, mae’r antur Galan Gaeaf hon yn addo hwyl a hud i’r teulu ar Galan Gaeaf.

Prisiau Tocynnau

£12

U16s £10

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
30 Hyd 2025

7pm

Dydd Gwener
31 Hyd 2025

1pm