Theatr Colwyn

The Houghton Weavers

Mae’r HOUGHTON WEAVERS, grŵp Comedi / Gwerin mwyaf blaenllaw gogledd-orllewin Lloegr, wedi bod yn diddanu’r werin bobl ers mwy na hanner can mlynedd bellach gyda’u cyfuniad unigryw o gerddoriaeth werin boblogaidd, hiwmor a chyfranogiad y gynulleidfa. Maent wedi bod ar y teledu a’r radio dro ar ôl tro ac yn dal i fynd ar daith o amgylch amryw theatrau a chanolfannau diwylliannol.

Ar ôl perfformio’n ddiweddar fel prif Artistiaid yn y Great British Folk Festival, cyrhaeddodd eu sengl “Wild Mountain Thyme” 40 Uchaf y Siartiau Treftadaeth a bydd i’w chlywed cyn bo hir mewn ffilm newydd, ‘Between Weathers’. Mae’r band wedi creu mwy na deg ar hugain o recordiau mewn stiwdios fel Abbey Road a Frog Studios, gyda Steve Millington yn gwneud y trefniant a’r gwaith cynhyrchu ar gyfer tair ar hugain ohonynt.

Mae’r HOUGHTON WEAVERS yn addo digon o chwerthin, gyda’u hiwmor heintus a’u llu o hanesion doniol. Cewch glywed hen ffefrynnau’r Weavers fel Blackpool Belle, Sit Thi Deawn, Matchstalk Men a Dirty Old Town, ynghyd ag alawon newydd, caneuon gwreiddiol a cherddi. Rhwng caneuon gwerin tanllyd, clasuron i bawb eu canu a baledi hyfryd, a pa bynnag ganeuon y mae’r gynulleidfa’n gofyn amdanynt, mae pob un o sioeau’r Houghton Weavers ychydig yn wahanol!

Mae Jim Berry a Steve Millington, a Simon Brady ar y mandolin, yn gyfuniad cyffrous ar lwyfan a byddwch chi’n siŵr o fod yn canu gyda’r sioe hapus hon!

Mae sioe gan y HOUGHTON WEAVERS yn argoeli i fod yn noson wych o adloniant, ac mae eu profiad – ynghyd â’u steil a’u proffesiynoldeb – yn sicrhau y byddan nhw’n cadw at eu harwyddair, sef ‘Keep Folk Smiling!’

www.houghtonweavers.com

www.facebook.com/houghtonweave...

Prisiau Tocynnau

£19.50

Concession £18.50

*Ticket Price Includes £1.50 Administration Fee and 50p Theatre Levy*

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
25 Medi 2026

7.30pm