Su Pollard - Still Fully Charged
Genre: Sioe Gerdd , Comedi, Cerddoriaeth, Sgwrs
O diar! Mae wedi bod yn 50 mlynedd…
Dewch i weld Su a’i chyfeilydd yn fyw ar y llwyfan i ddathlu ei 50 mlynedd ym myd adloniant gyda noson o chwerthin doniol, caneuon anhygoel a straeon bendigedig!
Ers 50 mlynedd, mae’r enwog Su Pollard wedi diddori cynulleidfaoedd, gan ymddangos yn sioeau teledu mwyaf adnabyddus y genedl ac ar lwyfannau ar draws y byd yn rhai o hoff sioeau cerdd y byd.
O ddechrau cyffredin ar Opportunity Knocks ar y teledu (ble daeth yn ail i gi yn canu), i’w blynyddoedd fel morwyn chalet Maplin, Peggy yn y gyfres deledu boblogaidd ar y BBC, Hi-de-Hi!, i’w rolau yn y West End a theithio’n genedlaethol yn Godspell, Anne a Little Shop of Horrors, a’i hymddangosiad mwyaf diweddar ar y teledu ar Celebrity Masterchef, Gimme Gimme Gimme ac Would I Lie To You? - mae wedi bod yn hanner canrif llawn o adloniant llwyr. A megis dechrau mae hi!
Mae ei sioe un fenyw newydd Still Fully Charged yn dod â thrysor cenedlaethol wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd sy’n ei haddoli i ddathlu’r cymeriadau anhygoel y bu’n ffodus i’w chwarae, y ffrindiau a’r cydweithwyr anhygoel mae wedi eu cyfarfod ar hyd y ffordd a’r ystod gwych o gerddoriaeth a berfformiwyd ganddi drwy ei gyrfa ddisglair.
Felly, ymunwch â Su am noson o straeon doniol o 50 mlynedd yn y busnes sioeau, yn cynnwys caneuon o’r sioeau, cyfrinachau cefn llwyfan o’i dyddiaduron ac efallai hyd yn oed ymddangosiad un o’i dau gymeriad cyfarwydd!
Yn fyw ar y llwyfan gyda’i chyfarwyddwr cerddorol Steven Edis, mae Su Pollard (enillydd Gwobr Panto am Gyflawniad Oes 2023 a’r wobr ym 1988 Rear of the Year) yma i ddangos ei bod yn dal yn llawn bywyd ac yn barod amdani!
Prisiau Tocynnau
£27.00
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Mawrth
29 Hyd 2024
7.30pm