Theatr Colwyn

The Life of Terry

Genre: Photography

A nawr am rywbeth hollol wahanol…

Mae ‘The Life of Terry’ yn arddangosfa newydd o ‘drysorau’ nad ydynt wedi eu gweld erioed o’r blaen o archif bersonol y diweddar Terry Jones, aelod o Monty Python a mab enwocaf Bae Colwyn.

Nid oes angen cyflwyno Terry …. ond rhag ofn – ef oedd y Cymro yn Monty Python, y criw comedi hwnnw a oedd yn enwog oherwydd bod eu ffilm, ‘The Life of Brian’, wedi cael ei wahardd yn Aberystwyth. Wedi’i eni ym Mae Colwyn, roedd Terry yn Gymro balch, byth a hefyd yn cyhoeddi ei Gymreictod mewn acen yn syth o Surrey.

Trefnwyd yr arddangosfa newydd hon o’r enw ‘The Life of Terry’ gan Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn, gyda’r rhan fwyaf o’r hyn a gaiff eu harddangos wedi’u benthyg gan deulu Terry ac o archif Monty Python. Mae’r arddangosfa yn canolbwyntio ar luniau personol Terry ei hun drwy gydol ei yrfa yn ogystal â ffotograffau y tu ôl i’r llenni o’r ffilmiau a rhaglenni teledu.

Hefyd wedi’u cynnwys mae tudalennau o lyfrau nodiadau gwreiddiol Terry sy’n cynnwys geiriau gwahanol i’r gân ‘Always Look on the Bright Side of Life’, byrddau stori wedi’u creu gan Terry ei hun ar gyfer ffilm Monty Python ‘The Meaning of Life’ yn 1981 yn ogystal â phosteri gwreiddiol ac eitemau eraill.

Mae’r arddangosfa er budd ymgyrch ‘A Python On The Prom’ sydd â’r nod o godi cerflun efydd o Terry ym Mae Colwyn, ei dref enedigol. Sally a Bill Jones, ei blant, ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy sy’n gyfrifol am yr apêl.

Beth am adael rhodd ychwanegol pan brynwch eich tocynnau. Bydd pob ceiniog a roddir yn helpu tîm A Python on the Prom i gyrraedd y nod o gasglu £120,000 ar gyfer cerflun o frodor enwocaf Bae Colwyn, a wnaeth i’r byd i gyd chwerthin!

*Ar agor tan 1 Chwefror - cliciwch ar ‘Archebwch Nawr’ i weld yr amseroedd a phrynu tocynnau*




Prisiau Tocynnau

£5

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau