Cymraeg

Mae Maer Bae Colwyn yn cyflwyno noson codi arian yn arddull y 1940au, yn cynnwys 'The Fatal Dilemma'

Cyfarwyddwr: Paris Wharton

Cast: Gavin Baldwin, Landon Sweeney, Sofia Mavrou, Sam Highcock, Keith Lewis, Rob Jee

Cefnogi Canolfan Dementia Conwy 

Dewch â rhodd ar gyfer Banc Bwyd Sant Joseff 

Mae’r ymchwilydd preifat John Morris yn dychwelyd i’w swyddfa’n hwyr fin nos ac yn cofio am achos peryglus trwy gyfres o ôl-fflachiadau.  Mae gweithiwr yn y Weinyddiaeth Fwyd o’r enw Barbara Harrison yn datgelu anghysondebau mewn cyfrifon bwyd cyn iddi gael ei chanfod wedi’i llofruddio. Bos Morris, Frank Williams yw’r prif unigolyn dan amheuaeth, ac mae Morris yn ymchwilio i fyd tywyll adleoli cyfnod y rhyfel i glirio ei enw, gan wynebu penbleth foesegol.

'Wedi’i ffilmio ar leoliad yng ngogledd Cymru, gan ddefnyddio safleoedd hanesyddol ym Mae Colwyn a Llandudno, yn cynnwys Osborn Hall yn Ysgol Rydal Penrhos, a fu’n gwasanaethu fel pencadlys y Weinyddiaeth Fwyd yn y ffilm, Neuadd Tref Bae Colwyn a wasanaethodd fel swyddfa’r ymchwilydd preifat, Eglwys Sant Paul ac yn sgil diffyg gwestai ym Mae Colwyn, bu’n rhaid i ni ddefnyddio Gwesty Dunoon yn Llandudno.'

 

Mae gwisg ffansi o’r 1940au yn ddewisol 

Blwch Tynnu Lluniau gan Event Lounge 

Adloniant Byw gan Driawd sy’n canu yn arddull y 1940au - The Harmony Belles

Rhaglen ddogfen am y Weinyddiaeth Fwyd 

Sgwrs gyda Gemma Campbell (Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn) 

Sesiwn Holi ac Ateb yn dilyn The Fatal Dilemma 

Noson o sinema, hanes a hanes cymunedol 

 

 

 

 

 

Prisiau Tocynnau

£5

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
24 Maw 2027

7pm