
The Penguin Lessons - Ffilm Am Ddim 12A
Cyfarwyddwr: Peter Cattaneo
Genre: Drama , Comedi
Cast: Steve Coogan, Jonathan Pryce
Wedi’i ariannu gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy
Ymunwch â ni yn Theatr Colwyn am ddangosiad AM DDIM o ffilm ddiweddaraf Steve Coogan, The Penguin Lessons.
Gallwn gynnal y digwyddiad hwn – a fydd yn ddigwyddiad prynhawn – ar gyfer preswylwyr Bwrdeistref Sirol Conwy o ganlyniad i gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy.
Bydd yn addas i bob cynulleidfa – bydd y sain wedi ei ostwng a gadewir rhai goleuadau ymlaen.
Mae mynediad hefyd yn cynnwys te, coffi a bisgedi am ddim.
Wedi’i hysbrydoli gan stori wir Sais wedi’i ddadrithio a aeth i weithio mewn ysgol yn yr Ariannin ym 1976.
Gan ddisgwyl taith hawdd, mae Tom yn darganfod cenedl wedi’i rhannu a dosbarth o fyfyrwyr na ellir eu dysgu. Fodd bynnag, ar ôl iddo achub pengwin o draeth wedi’i orchuddio ag olew, mae ei fywyd yn cael ei droi wyneb i waered.
Yn cynnwys ychydig o iaith gref chyfeiriadau rhywiol cymedrol.
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Prisiau Tocynnau
FREE
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Iau
17 Gorff 2025
2.30pm