

The Spongebob Musical - PMA Theatre
Mae Theatr PMA yn paratoi i ddod â sioe gerdd ‘The SpongeBob Musical’ yn fyw! Gyda’i chymeriadau lliwgar, ei chaneuon gafaelgar a’i hegni byrlymus, mae’r sioe Broadway boblogaidd hon yn berffaith ar gyfer cast a chriw deinamig Theatr PMA. O optimistiaeth SpongeBob i haerllugrwydd Squidward, mae’r grŵp yn addo darparu sioe llawn sbort twymgalon a fydd yn diddanu cynulleidfaoedd o bob oedran. P’un a ydych wedi bod yn gwylio’r cartŵn ers cyn cof neu’n newydd i Bikini Bottom, mae Theatr PMA yn ymgymryd â’r antur danforol hon mewn modd a fydd yn siŵr o’ch gadael yn canu ac yn gwenu yn hir ar ôl i’r llen ddisgyn.
Mae’r sioe arbennig hon yn seiliedig ar gyfres boblogaidd Nickelodeon ac mae’n cynnwys caneuon a ysgrifennwyd gan rai o enwau mwyaf y byd cerdd, gan gynnwys Aerosmith, Panic! At The Disco, Sara Bareilles, John Legend, a Cyndi Lauper. Rydych yn siŵr o gael ‘Y Diwrnod Gorau Erioed!
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Prisiau Tocynnau
£17
U14s £12
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
04 Ebrill 2025
7pm
Dydd Sadwrn
05 Ebrill 2025
2pm
Dydd Sadwrn
05 Ebrill 2025
7pm