Voodoo Room: The Music of Hendrix, Clapton & Cream
Yn union fel eu cyndadau, mae Voodoo Room yn driawd pwerus clasurol!
Yn gyntaf mae’r gitarydd, Peter Orr. Mae wedi bod yn cyffroi cynulleidfaoedd ledled y DU ac Ewrop am bron i 3 degawd, gan gyfuno anthemau roc clasurol, gydag egni ac arddull sy’n arbennig i’r cyfnod. Mae ei unawdau gwefreiddiol a’i arddull lleisiol, wedi syfrdanu’r bobl sydd wedi bod yn ddigon lwcus o brofi’r meistr hwn yn rhoi bywyd newydd i’r clasuron…
Injan y triawd anhygoel hwn yw’r adran rythm Jevon Beaumont a John Tonks. Mae eu nodweddion yn cynnwys: Massive Attack, Duran Duran, Sting, Thunder, Bryan Adams, Fish, Stevie Winwood, Arthur Brown ac ati… heb grybwyll Eric Clapton, Jack Bruce a llawer mwy!
Gyda’i gilydd maent yn ffurfio’r peiriant roc, retro pwerus sef y “Voodoo Room” - eu cenhadaeth: Cyflwyno caneuon gwych Hendrix, Clapton a Cream, gyda gwir angerdd ac egni y mae’r darnau anhygoel hyn yn ei haeddu!
Mae’r sioe hwn y tu hwnt i deyrnged, mae’n ddathliad o driawd pwerus pur!! Felly peidiwch â cholli’r cyfle i brofi gwefr y gerddoriaeth fel ag yr oedd yn y cyfnod. Profwch yr hud gyda “Voodoo Room.”
“No wigs or pantomime – just great music played by great musicians!”
“10/10 Superb!” Classic Blues Mag
“STUNNING !” Time Out
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Prisiau Tocynnau
Ymlaen Llaw £19.50
Ar y Diwrnod £21.50
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
30 Mai 2025
7.30pm