We Will Rock You - PMA Theatre
Byddwch yn barod i rocio.. Mae PMA Theatre yn dod â sioe gerdd chwedlonol Queen, We Will Rock You, i Theatr Colwyn ym mis Tachwedd - ac mae’n mynd i fod yn noson i’w chofio!
Mae stori We Will Rock You wedi’i lleoli mewn dyfodol dystopaidd lle mae unigoliaeth a cherddoriaeth fyw wedi'u gwahardd. Mae’n dilyn grŵp o wrthryfelwyr sy'n benderfynol o dorri'n rhydd o fyd lle mae pawb yn meddwl, yn gwisgo ac yn ymddwyn yn union yr un fath. Eu harf? Cerddoriaeth Roc.
Yn llawn dop o ganeuon mwyaf poblogaidd Queen, gan gynnwys Somebody to Love, Killer Queen, Don’t Stop Me Now, I Want to Break Free, Radio Ga Ga, Under Pressure, Another One Bites the Dust ac wrth gwrs, We Will Rock You, mae’r sioe gerdd ryfeddol hon yn ddathliad o unigoliaeth, cyfeillgarwch a phŵer cerddoriaeth.
Gyda stori sydd wedi’i hysgrifennu gan y comedïwr enwog Ben Elton, a cherddoriaeth a geiriau anhygoel y band Queen, dyma sioe sy'n llawn chwerthin, gwrthryfel, cymeriadau mawr a chaneuon hyd yn oed yn fwy.
P’un a ydych yn rhywun sydd wedi dilyn Queen ar hyd eich oes neu’n syml yn mwynhau noson wych yn y theatr, gall PMA Theatre eich sicrhau y byddwch yn canu, chwerthin a rocio yn eich sedd yn y sioe hon.
Prisiau Tocynnau
£20
*Ticket Price Includes £1.50 Administration Fee and 50p Theatre Levy*
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
27 Tach 2026
7.30pm
Dydd Sadwrn
28 Tach 2026
2pm
Dydd Sadwrn
28 Tach 2026
7.30pm