Theatr Colwyn

We’re Not Going Back

Genre: Drama , Hanesyddol

Mae Cwmni Theatr Red Ladder ac Undeb Llafur Unite yn cyflwyno

We’re Not Going Back. A ysgrifennwyd gan Boff Whalley

75 o Byllau Glo. 3 Chwaer. 1 Achos. (A phecyn o chwech Babycham)

Mae 2024 yn nodi deugain mlynedd ers streic y glowyr 1984/85, anghydfod sydd wedi aros yn y cof hyd heddiw. Ond nid gwrthdaro rhwng picedwyr a’r heddlu oedd y streic yn unig - yn y sioe gerdd gomedi hon sy’n procio’r meddwl, nid oes yr un glöwr na phlismon. Yn hytrach fe ddilynwn hanes tair chwaer mewn pentref glofaol sydd wedi’i daro’n galed gan ryfel y Llywodraeth yn erbyn y glowyr ac sy’n benderfynol o sefydlu cangen o ‘Fenywod yn Erbyn Cau Pyllau’.

Mae’n gynnar yn 1984, ac mae Olive, Mary, ac Isabel yn chwiorydd sy’n gweld eu hymgecru bob dydd yn dod i wrthdrawiad â streic sy’n eu gorfodi i gwestiynu eu bywydau, eu perthnasoedd, a’u cysylltiadau teuluol.

Nid gwrthryfel ym meysydd y llinell biced, y Senedd a barn gyhoeddus yn unig oedd y streic hon; roedd hefyd yn frwydr o fewn cartrefi a theuluoedd y rheiny a oedd yn cwffio dros eu cymunedau.

Mae ‘We’re Not Going Back’ yn mynd i’r afael â gwytnwch cymunedau gweithio, y meddylfryd clytio a thrwsio o fewn teuluoedd, a grym codi dau fys ar lywodraeth sy’n benderfynol o greu dinistr… a’r cyfan gyda hiwmor, cân a pecyn o chwech Babycham.

Bydd y perfformiad hwn yn defnyddio The Difference Engine gan Talking Birds, er mwyn caniatáu i aelodau’r gynulleidfa sy’n f/Fyddar a thrwm eu clyw i dderbyn capsiynau ar gyfer y perfformiad yn uniongyrchol i’w dyfeisiau symudol www.differenceengine.talkingbirds.co.uk/


  • Please note only food and drink purchased from Theatr Colwyn can be consumed on the premises


Prisiau Tocynnau

£18

Con £16

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mawrth
15 Hyd 2024

7.30pm