Theatr Colwyn

Gwirfoddolwch Gyda Ni

Mae stiwardiaid gwirfoddol yn rhan hanfodol o’n tîm Blaen Tŷ. Maent yn helpu i greu profiad croesawgar, llawn mwynhad i’n holl ymwelwyr. Fel stiward, byddwch yn gweithio mewn rhannau cyhoeddus o’r adeilad yn ystod digwyddiadau a pherfformiadau, gan gyflawni dyletswyddau fel sganio a gwirio tocynnau, monitro gweithgarwch cynulleidfaoedd, ac yn bwysicaf oll, sicrhau bod pawb yn mwynhau eu noson.

Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi diogelwch ein gwesteion, gan gynnwys cynorthwyo i wagio’r adeilad mewn argyfwng.

Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar a brwdfrydig sy’n barod i ddilyn canllawiau ac sy’n gallu ymrwymo i o leiaf dwy shifft bob mis calendr. Mae’r shifftiau yn hyblyg - prynhawn, gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Darperir hyfforddiant llawn, ynghyd â chefnogaeth barhaus. Mae gwirfoddoli gyda ni yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau newydd, meithrin cyfeillgarwch a mwynhau ein sioeau gwych. Ychydig o’r manteision niferus.

Sylwch fod yn rhaid i chi fod o leiaf 18 oed i wirfoddoli.

Oherwydd natur y rôl hon, mae’n rhaid i’n stiwardiaid fod yn gorfforol heini i allu dringo i fyny ac i lawr grisiau.