DANGOSIAD FFILM ELUSENNOL Gyda Chyfweliad Byw a Sesiwn Holi ac Ateb 12A
Cyfarwyddwr: Terry Jones
Genre: Hanesyddol , Comedi
Cast: Graham Chapman, Terry Jones, Eric Idle, John Cleese, Michael Palin
Mae’r ffilm o ddychan crefyddol adnabyddus, The Life of Brian gan Monty Python, yn adrodd hanes Brian, darpar Feseia cyndyn sy'n denu sylw o ganlyniad i gyfres o amgylchiadau hurt a gwirioneddol ddoniol. Mae’r holl gast yn disgleirio mewn sawl rôl wrth iddynt watwar pawb a phopeth o gyn-wahangleifion, Pontius Pilatus a’r grefft o fargeinio, i broffwydi gwallgof, canwriaid Rhufeinig a chroeshoeliad. Yn eu trydedd ffilm, sy’n tynnu’n groes i’r graen, mae Monty Python yn arddangos dychan brathog, anarchaidd o grefydd a phortread Hollywood o bopeth Beiblaidd.
Mae'r dangosiad elusennol hwn yn dathlu cyfarwyddwr a chydawdur y ffilm, y diweddar Terry Jones, a oedd yn Noddwr Theatr Colwyn.
Darganfyddwch y stori y tu ôl i A Python On The Prom, yr ymgyrch codi arian fyd-eang dan arweiniad Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy gyda phlant Terry, Sally a Bill Jones. Codwyd £120,000 mewn rhoddion cyhoeddus i greu cerflun efydd o Terry Jones ym Mae Colwyn, a ddadorchuddiwyd gan y cyd-Bythoniaid Michael Palin a Terry Gilliam, ar 25 Ebrill 2026.
Bydd Rob Shelley o ITV Cymru yn cynnal cyfweliad byw gyda Sally Jones a'r cerflunydd Nick Elphick cyn y dangosiad, gan drafod yr ymgyrch nodedig a'r broses o droi'r syniad o gerflun yn ddarn celf gyhoeddus ryfeddol. Bydd cyfle hefyd i aelodau’r gynulleidfa ofyn cwestiynau.
Bydd yr arian a godir yn ystod y noson yn cael ei rannu rhwng dwy elusen oedd yn agos iawn at galon Terry - Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy a The National Brain Appeal, Rare Dementia Support.
Prisiau Tocynnau
DEWISWCH BRIS EICH TOCYN
£50 - includes A Python On The Prom t-shirt
£45
£25
£10
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Sadwrn
23 Mai 2026
6.30pm