Theatr Colwyn

Beth sy’n Digwydd?

Sinema

Project Hail Mary 12A

20.04.2026 - 21.04.2026
Mae athro gwyddoniaeth Ryland Grace (Ryan Gosling) yn deffro ar long ofod flynyddoedd goleuni o adref heb unrhyw gof pwy ydyw na sut gyrhaeddodd yno.
Sinema

Hoppers U

06.04.2026 - 09.04.2026
Beth petaech chi’n gallu siarad ag anifeiliaid a deall beth maen nhw’n ei ddweud? Yn ffilm newydd sbon Disney a Pixar, “Hoppers”, mae gwyddonwyr wedi darganfod sut i “hopian” meddyliau pobl i gyrff robotiaid sy’n edrych yr un ffunud ag anifeiliaid, fel bod pobl yn medru cyfathrebu rhwng un anifail a’r llall!
Sinema

Amelie 15

15.04.2026 - 15.04.2026
Yn dychwelyd i sinemâu 25 mlynedd wedi’i rhyddhau’n wreiddiol. Mae Amélie’n ferch unig 23 mlwydd oed sy’n penderfynu bod yn aelod gweithgar o’i chymuned drwy wneud troeon da i’w chymdogion.
Sinema

EPIC: Elvis Presley In Concert 12A

22.04.2026 - 23.04.2026
Cewch glywed Elvis yn canu ac yn adrodd ei hanes fel erioed o’r blaen mewn profiad sinematig newydd gan yr auteur, Baz Luhrmann.
Sinema

The Super Mario Galaxy Movie (rating TBC) Cert TBC

08.05.2026 - 09.05.2026
Mae Mario a Luigi’n dychwelyd i’r sgrin fawr! Dewch i weld eich holl ffefrynnau o gemau Nintendo, gan gynnwys y Dywysoges Rosalina, mewn ffilm animeiddiedig newydd sbon!
Sinema

The Devil Wears Prada 2 12A

15.05.2026 - 21.05.2026
Bron i ugain mlynedd ar ôl iddynt chwarae’r rhannau eiconig fel Miranda, Andy, Emily a Nigel - mae Meryl Streep, Anne Hathaway, Emily Blunt a Stanley Tucci yn dychwelyd i strydoedd ffasiynol Efrog Newydd a swyddfeydd gosgeiddig Cylchgrawn Runway, yn y dilyniant hir ddisgwyliedig i’r ffenomenon a ddiffiniodd genhedlaeth.
Sinema

Sinema Babis y Bae - The Devil Wears Prada 2 12A

18.05.2026 - 18.05.2026
SINEMA BABIS Y BAE. Bron i ugain mlynedd ar ôl iddynt chwarae’r rhannau eiconig fel Miranda, Andy, Emily a Nigel - mae Meryl Streep, Anne Hathaway, Emily Blunt a Stanley Tucci yn dychwelyd i strydoedd ffasiynol Efrog Newydd a swyddfeydd gosgeiddig Cylchgrawn Runway, yn y dilyniant hir ddisgwyliedig i’r ffenomenon a ddiffiniodd genhedlaeth.
Sinema

Pride & Prejudice - 20th Anniversary Re-Release U

28.04.2026 - 29.04.2026
Yn dychwelyd i sinemâu 20 mlynedd wedi’i rhyddhau’n wreiddiol. Yn yr addasiad hwn o nofel boblogaidd Jane Austen, mae Elizabeth Bennet (Keira Knightley) yn byw gyda’i mam, ei thad a’i chwiorydd yng nghefn gwlad Lloegr.
Sinema

Madfabulous 12A

07.06.2026 - 12.06.2026
Pan mae’r cymeriad lliwgar Henry Paget yn cyrraedd Gogledd Cymru yn y 1890au i hawlio ei etifeddiaeth aristocrataidd, mae ei ddawn theatrig a’i hynodrwydd herfeiddiol yn anfon sioc ymysg y dosbarth uchaf elitaidd, gan ddiddanu pobl leol y dref.
Sinema

Mother's Pride 12A

05.05.2026 - 06.05.2026
Gan y tîm y tu ôl i ‘Finding Your Feet' a ‘Fisherman’s Friends’, mae Mother’s Pride yn stori am Cal Harley a’i deulu sydd, ar ôl colli eu matriarch, yn gorfod dod at ei gilydd i achub eu tafarn a’u pentref drwy fragu cwrw.
Sinema

Effi o Blaenau Cert TBC

23.06.2026 - 24.06.2026
Rhan o dymor ffilmiau O Gymru i’r Sgrin. Yn seiliedig ar ddrama un dyn boblogaidd Gary Owen, Iphigenia in Splott, dehongliad sinematig y cyfarwyddwr Marc Evans yw ‘Effi o Blaenau’ ac mae wedi’i osod yn erbyn tirweddau eang ac agored gogledd Cymru.
Sinema

Oed Yr Addewid 15

07.07.2026 - 08.07.2026
Rhan o dymor ffilmiau O Gymru i’r Sgrin. Mae hi’n fis Mawrth 1997 ac ar ôl 18 mlynedd dan y Torïaid, mae Prydain yn cyrraedd croesffordd wleidyddol. Wrth i William Davies gerdded o’i dŷ un bore, mae’n gweithredu cynllun taer ac abswrd a fydd yn ei roi ar y blaen i’r system – yn ei farn ef.
Sinema

Pride 15

21.07.2026 - 22.07.2026
Rhan o dymor ffilmiau O Gymru i’r Sgrin. Mae Pride yn ddrama gomedi hanesyddol Brydeinig sy’n seiliedig ar stori wir, lle bo ymgyrchwyr LHDTC+ yn Llundain ym 1984 wedi codi arian i gefnogi glowyr yn ystod eu blwyddyn o streic yn erbyn llywodraeth Margaret Thatcher.
Sinema

Set Fire To The Stars 15

04.08.2026 - 05.08.2026
Rhan o dymor ffilmiau O Gymru i’r Sgrin. Wedi’i ryddhau’n 2014, yn dathlu can mlynedd ers geni Dylan Thomas, mae’r ddrama lled-fywgraffiadol ddiddorol - wedi’i ffilmio mewn du a gwyn - yn canolbwyntio ar wythnos ym mywyd y bardd mawreddog wrth iddo baratoi ar gyfer cyfres o berfformiadau yn yr Unol Daleithiau.
Sinema

Very Annie Mary 15

18.08.2026 - 19.08.2026
Rhan o dymor ffilmiau O Gymru i’r Sgrin. Mae Annie Mary Pugh yn ei 30au cynnar, yn sengl ac yn ferthyr i’w thad Jack, sy’n ŵr gweddw ac yn rhedeg becws mewn tref fach yng Nghymru. Yn ceisio cynilo digon i gael fflat, mae ei holl obeithion yn deilchion pan mae o’n dioddef strôc ac mae’n rhaid iddi hi gymryd awenau’r busnes, ond pan mae ei chyfaill Bethan, sy’n marw o ganser, yn dymuno mynd ar daith i Disneyland cyn iddi farw, mae Annie’n goresgyn ei hanobaith ac yn rhoi cynnig ar gystadleuaeth ganu.
Sinema

The Magic Faraway Tree U

02.05.2026 - 03.05.2026
Mae’r stori yn dilyn Polly a Tim Thompson a’u plant, Beth, Joe a Fran sy’n gorfod adleoli i gefn gwlad anghysbell Lloegr.
Sinema

Glenrothan 12A

07.05.2026 - 08.05.2026
Ar ôl 35 mlynedd yn Chicago, mae Donal (Alan Cumming) yn dychwelyd yn anfodlon i Ucheldir yr Alban i gymodi â’i frawd hŷn y mae wedi ymddieithrio oddi wrtho, Sandy (Brian Cox).
Sinema

Mary Poppins PG

02.05.2026 - 02.05.2026
Ymunwch â Mary Poppins (Julie Andrews), sydd bron yn berffaith ym mhob ffordd, am "Wyliau Llawen" wrth iddi droi pob tasg yn gêm a phob dydd yn antur hudolus.
Sinema

Mary Poppins - Dangosiad sy’n Ystyriol o Ddementia PG

12.05.2026 - 12.05.2026
Ymunwch â Mary Poppins (Julie Andrews), sydd bron yn berffaith ym mhob ffordd, am "Wyliau Llawen" wrth iddi droi pob tasg yn gêm a phob dydd yn antur hudolus. Ar hyd y ffordd, byddwch chi'n cael eich swyno gan gymeriadau bythgofiadwy fel yr ysgubwr simneiau amryddawn Bert (Dick Van Dyke).
Sinema

Oliver! PG

01.05.2026 - 01.05.2026
Daw stori glasurol Charles Dickens am blentyn amddifad yn Lloegr yn y 19eg Ganrif yn fyw yn y sioe gerdd hon a gafodd Oscar. Gan ffoi bywyd o gaethwasiaeth mewn tloty, mae Oliver (Mark Lester) yn cyrraedd Llundain i geisio gwneud ei ffortiwn. Yn ystod ei anturiaethau, mae Oliver yn cwrdd â llu o wehilion bythgofiadwy Dickens.
Sinema

Oliver! Dementia Friendly Screening PG

02.06.2026 - 02.06.2026
Daw stori glasurol Charles Dickens am blentyn amddifad yn Lloegr yn y 19eg Ganrif yn fyw yn y sioe gerdd hon a gafodd Oscar. Gan ffoi bywyd o gaethwasiaeth mewn tloty, mae Oliver (Mark Lester) yn cyrraedd Llundain i geisio gwneud ei ffortiwn. Yn ystod ei anturiaethau, mae Oliver yn cwrdd â llu o wehilion bythgofiadwy Dickens.